FIDEO
Côr Cymunedol Hafren & Llanidloes yng MWA
Diolch i grant gan Gronfa Principality Stadiwm y Mileniwm cynhaliwyd diwrnod rhyngwladol o ddathlu ewyllys da i ddynolryw; Diwrnod o rannu, bwyd a chân. Pwrpas y diwrnod oedd dathlu bwyd, cerameg a cherddoriaeth o wahanol ddiwylliannau.
Wrth baratoi, gwahoddwyd pobl o gefndiroedd diwylliannol gwahanol i ddod neu wneud bwyd i'w rannu ag eraill. Fe wnaethom wahodd pobl o'r Wcráin, y Weriniaeth Tsiec, Japan, a llawer o wledydd eraill.
Gofynnom i bobl ddod â'r rysáit ar gyfer eu pryd er mwyn i ni allu eu casglu a chynhyrchu llyfr, yn sail i brosiect sied argraffu ar gyfer ein stiwdio newydd.
Cafodd platiau a phowlenni eu gwneud yn ein Stiwdio Grochenwaith i’w defnyddio i weini’r bwyd ar y diwrnod
Roedd Côr Cymunedol Hafren yn canu caneuon o bedwar ban byd, roedd y tywydd yn garedig, felly roedden nhw’n gallu canu tu allan gyda dawnsio cylch yn digwydd yn naturiol gan bob oed.
Dilynwch linc fideo o'r Côr Cymunedol yn canu.