Dylan Glyn - Gwneuthurwr Dodrefn Cyfoes
Dydd Sul, 26 Mai, - Dydd Sul, 4 Awst, 2024
-
Overview
-
Works
Mae Dylan Glyn yn dylunydd a gwneuthurwr dodrefn wedi'i leoli yng Caersws. Mae wedi gweithio mewn gwahanol rannau o'r diwydiant dodrefn pren o goedwigaeth i ddylunio a gweithgynhyrchu ers bron i trideg flynedd, ac o'r diwedd mae'n dechrau cynhyrchu ei ystod ei hun. Mae cromio a plygu pren wedi bod yn diddordeb yn ei waith ers iddo gwneud ei gradd mewn dylunio ym prifysgol Loughborough. Ers mae wedi datblygu llawer o brofiad dros y blynyddoedd mewn plydu pren i creu dodrefn. Mae'n cymhwyso'r wybodaeth hon o blygu hefo stêm, profiad dylunio a gweithio gyda pren caled Cymreig i greu ei waith newydd.
Mae dechrau pob darn o ddodrefn yn dechrau gyda dod o hyd i pren caled lleol o wahanol rywogaethau sydd wedin yn creu perthynas uniongyrchol hefo thyfwyr y coed a choedwigwyr sy'n gweithio yn y goedwig. Mae’r cysylltiad uniongyrchol hwn â’r gadwyn gyflenwi yn agwedd bwysig sy’n ychwanegu dyfnder a dilysrwydd i’r gwaith terfynol y mae Dylan yn ei greu.
Y darnau sy'n cael eu harddangos yw'r cyntaf o'i gasgliad newydd sy'n chwarae'n gain gyda strwythurau cefn pâr a llinellau llifo i gynhyrchu ffurfiau cerfluniol at ddefnydd ymarferol. Mae dodrefn Dylan yn dathlu cymeriad ac amrywiaeth y pren a dyfwyd o amgylch ei weithdy a oedd yn cyfuno ag ymdeimlad o symudiad ysgafn i greu darnau unigryw i gwerthfawrogi a defnyddio am oes.