
Dylan Glyn
Wedi'i gyhoeddi ar: Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf, 2024
YFORY (Dydd Mercher 17 Gorffennaf) 2-4 DIGWYDDIAD AM DDIM
Mae'r artist crefftwr Dylan Glyn yn ddylunydd a gwneuthurwr dodrefn sydd wedi sefydlu gweithdy yng Nghaersws.
Ar hyn o bryd mae ganddo arddangosfa o'i ystod ddiweddaraf o ddodrefn sy'n defnyddio pren caled Cymreig o ffynonellau lleol yn ein Oriel Ysgubor.
Dewch draw i'r prynhawn anffurfiol yma lle bydd Dyan Glyn ac yn siarad ac ateb cwestiynau.