
Diwrnod Rhyngwladol
Wedi'i gyhoeddi ar: Dydd Llun, 15 Gorffennaf, 2024
“Roedd gwahoddiad i wneud saig a gwrando ar gerddoriaeth yn un deniadol. Roedd y bwyd yn wirioneddol ryngwladol ac roedd rysáit ysgrifenedig yn cyd-fynd â phob pryd. Syniad gwych, a bwyd blasus.
Canodd y côr gydag angerdd, llawenydd a llwyddiant. Caneuon o bedwar ban byd.
Roedd y tywydd yn garedig, felly roedd canu, sgwrsio a bwyta i gyd yn digwydd yn yr awyr agored. Eisteddai'r peunod ar y to, wedi'u halltudio o'r gerddi a'r gwenoliaid yn parhau i fwydo uwchben.
Wrth i mi adael, roedd dawnsio cylch i bob oed ar y gweill.
Diolch"
- Neges a dderbyniwyd gan aelod o’r gymuned a ddaeth i Ddiwrnod Rhyngwladol Bwyd, Cerddoriaeth, Dawns ac Ewyllys Da yng Nghelfyddydau Canolbarth Cymru ddoe (dydd Sul 14 Gorffennaf)
Diolch i bawb, yn enwedig i Charlotte Woodford a Chôr Cymunedol Hafren am wneud y diwrnod mor arbennig.
Noddwyd y digwyddiad gan Gronfa Principality Stadiwm y Mileniwm i gefnogi ymgysylltiad cymunedol