![Celf](../../images/7afdcfea-c3e7-47a5-acc8-08a6ae520dbd.jpeg)
Celf Siarad gyda Sue Hiley Harris
Wedi'i gyhoeddi ar: Dydd Mawrth, 25 Gorffennaf, 2023
Celf Siarad
Dydd Mercher 26ain Gorffennaf
2-4
Rhad ac am ddim
Rydym wrth ein bodd mai artist y Grŵp Cymreig, Sue Hiley Harris, fydd yn arwain y sgwrs gelf.
Cafodd Sue Hiley Harris ei geni a'i magu yn Awstralia. Mae’r Mynyddoedd Duon a Bannau Brycheiniog yng Nghymru wedi bod yn gartref iddi ers dros ugain mlynedd ac yma mae’n dod o hyd i ymdeimlad o hunan ac o’i gwaith.
Arweiniodd Gwobr Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2013 i Sue ailddarganfod lluniadu byw ac i weithio, heb wŷdd, yn gwehyddu gwifren arian, copr a haearn. Mae hi wedi arddangos ac ymgymryd â chomisiynau cerfluniol yn y DU ac yn rhyngwladol.
Dewch i glywed Sue yn siarad am ei gwaith hynod ddiddorol.
llun: Sue Hiley Harris, portread gan Bernard Mitchell