Home MWA Icon
En
Gweithdy

Dydd Sadwrn, 19 Ebrill, 2025

Gweithdy Argraffu Intaglio

Argraffu Intaglio gyda Sara Philpott
Dydd Sadwrn 19 Ebrill, 10-4, £75
(ffi Eventbrite yn berthnasol)

Bydd Sara Philpott yn eich cefnogi i ddylunio llyfr bach consertina... torri allan o blastig gwastraff i gynhyrchu delweddau sychbwynt, wedi'u trefnu mewn ffyrdd i ffurfio gwahanol naratifau. Mae'r dechneg hon yn galluogi siapiau a lluniadu cain ac yn addas ar gyfer prosiectau personol a mynegiant.
Mae croeso i chi ddod â'ch sgetsys bach eich hun i weithio ohonynt, neu dewch i gael eich ysbrydoli gan y diwrnod.
Gall argraffu fod yn flêr felly gwisgwch ddillad addas, neu dewch ag oferôls.
Mae’r dosbarth hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr neu’r rhai sydd â phrofiad o wneud printiau.
Mae'r holl ddeunyddiau wedi'u cynnwys.

Am y tiwtor: Peintiwr a gwneuthurwr printiau yw Sara sy’n byw ac yn gweithio yng nghanolbarth Cymru y mae ei gwaith yn cael ei ddangos ledled Prydain. Mae ei gwaith presennol yn aml yn adlewyrchu'r ddeialog rhwng y botanegol a'r dynol ac mae fel arfer yn naratif ei natur.
www.saraphilpott.com / Instagram: stingingnettle

Back to top