Home MWA Icon
En
Enamel

Dydd Sadwrn, 12 Tachwedd, 2022

Enamel ar gyfer y Nadolig gyda'r artist Jill Leventon

Ymunwch â'r artist Jill Leventon a dylunio a gwneud eich anrhegion Nadolig, addurniadau neu focs tlysau eich hun.

Bydd Jill yn rhannu ei harbenigedd a'i hangerdd am y ffurf gelfyddydol gyffrous hon ac yn eich cefnogi i ddefnyddio technegau amrywiol i gynhyrchu'ch hoff ddyluniadau.

Byddwch yn defnyddio copr tenau i ffurfio siapiau ar gyfer addurniadau neu flwch bach, a'u enamel. Os yw'n well gennych, gallwch brynu siapiau parod wedi'u torri gan Jill i weithio gyda nhw.

Mae Jill Leventon yn aelod uchel ei pharch o Gymdeithas Enamel Prydain ac Urdd yr Enameliaid sydd wedi cynnal gweithdai gyda ni o’r blaen. Dywedodd un a fynychodd yn ddiweddar "y gweithdy gorau rydw i erioed wedi bod arno, roedd addysgu Jill yn ardderchog."

 Croeso i bob oedran a gallu

Back to top