Sgwrs Celf gyda Dr June Forster a Junko Burton
Dydd Mercher 16 Ebrill 2-4
Mae Celfyddydau Canolbarth Cymru yn falch iawn bod Dr June Forster, Darlithydd Celfyddyd Gain (Paentio) sydd newydd ymddeol ym Mhrifysgol Aberystwyth a Junko Burton MA ei chyn-fyfyriwr wedi cytuno i drafod eu hymarfer, siarad ac ateb cwestiynau am eu harddangosfa newydd ‘Seen and Unseen’ sy’n cael ei dangos yn y brif Oriel ar hyn o bryd.
Mae eu harddangosfa yn ymateb yn beintiedig i Gors Tregaron a Thirwedd atmosfferig Canolbarth Cymru.
Mae croeso i bawb, mae mynediad a pharcio am ddim.
Mae'r arddangosfa yn parhau o ddydd Mercher - dydd Sul tan 11 Mai.
Cysylltwch â office@midwalesarts.org.uk am ragor o wybodaeth.