![Sculpteen](../../images/3385acb5-c276-4826-a9d3-aed07e8fdfd0.jpeg)
Gwahoddir pobl ifanc 12-19 oed i ymuno â Sculpteen '24 - Prosiect Gylfinir eleni
Bob dydd Iau drwy gydol mis Awst 10-4pm
£12 y gweithdy (gostyngiadau ar gael ) Mae gennym 8 lle ar gael.
Byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu ymwybyddiaeth o rywogaeth frodorol sydd dan fygythiad, y Gylfinir. Mae sawl pâr wedi’u hadnabod yn lleol, nod y prosiect yw dylunio ac adeiladu gweithiau celf cerfluniol sy’n disgrifio eu ffurf unigryw, yn amlygu breuder eu bodolaeth ac yn hysbysu’r cyhoedd ar y ffordd orau i’w hamddiffyn nhw a’u cynefinoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dylai pobl ifanc ddod â phecyn bwyd a gwisgo hen ddillad.
Cysylltwch i gadw lle : office@midwalesarts.org.uk Neu drwy eventbrite
Rydym yn ddiolchgar iawn i Sefydliad Teulu Ashley, Plant Mewn Angen a Mrs Clare Davies, am eu cefnogaeth, anogaeth a’u cred ym mhwysigrwydd mynediad i addysg gelfyddydol i bawb mewn amgylchedd gwledig. Diolch i'w cyfraniad hael rydym yn gallu cynnig y gweithdai hyn, gan gynnwys deunyddiau am £12