Gwneud Platiau, Gweithdy Crochenwaith
Dydd Sul 9 Mehefin 10-12.30
AM DDIM!
Fe'ch gwahoddir i ddod i sesiwn grochenwaith dydd Sul yma, i wneud platiau a phowlenni i weini eich arbenigedd ynddynt ar 14 Gorffennaf.
Bydd eich seigiau'n cael eu tanio ac yn barod ar gyfer digwyddiad 14eg Gorffennaf.....
Diolch i grant gan Stadiwm Principality rydym yn cynnal digwyddiad arbennig ar 14 Gorffennaf, 2-5pm
Diwrnod rhyngwladol o ddathlu ewyllys da i ddynolryw.
Diwrnod o fwyd a chân
Bydd Côr Hafren yn canu caneuon o bedwar ban byd. Bydd hwn hefyd yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, croeso i bawb.
Pwrpas y diwrnod yw dathlu bwyd, cerameg a cherddoriaeth o wahanol ddiwylliannau.
Wrth baratoi, rydym yn gwahodd pobl o gefndiroedd diwylliannol gwahanol i ddod â bwyd at ei gilydd neu ei wneud i’w rannu ag eraill. Mae gennym ni bobl o’r Wcráin, y Weriniaeth Tsiec, Japan, a llawer o wledydd eraill. Os ydych chi’n mwynhau coginio o’ch gwlad wreiddiol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi, e-bostiwch office@midwalesarts.org.uk