Arddangosfa: Hanes y Gylfinir
Mae’n hysbys bod y gylfinir yn bridio yng Nghaersws, mae’r adar bendigedig hyn wedi ysbrydoli cerddoriaeth, barddoniaeth, llenyddiaeth a chelf ers canrifoedd. Maent bellach mewn perygl oherwydd gweithgaredd dynol a newid hinsawdd.
Gan weithio gyda Curlew Connections Wales, rydym yn gobeithio y bydd yr arddangosfa gydweithredol hon yn codi ymwybyddiaeth ac yn helpu i fynd i’r afael â’r materion allweddol sy’n sbarduno llwyddiant bridio isel y gylfinir yng Nghymru. Mae amcangyfrifon yn rhagweld y byddant wedi diflannu erbyn 2033. Agwedd bwysig o'r prosiect yw cysylltu ein tirwedd a'n pobl â'r adar eiconig hyn.
Gwahoddwn artistiaid o bob cyfrwng i gyflwyno gwaith ar y testun y Gylfinir cyn 1af Mawrth, dydd Gŵyl Dewi.
E-bostiwch: office@midwalesarts.org.uk i ofyn am ffurflen gyflwyno