Home MWA Icon
En
Diwrnod

Dydd Mawrth, 26 Mawrth, 2024

Diwrnod Gofalwyr Credu

Digwyddiad AM DDIM!

Yn dilyn llwyddiant diwrnod Gofalwyr yr Hydref, mae Credu yn cynnig ail gyfle i ofalwyr yng Nghanolbarth Cymru fwynhau diwrnod Ymlacio yn y Celfyddydau. Dewch i ymlacio, sgwrsio, gwrando, cyfarfod ffrindiau a bod yn greadigol yng Nghanolfan Celfyddydau Canolbarth Cymru, Caersws.

Bydd y diwrnod yn dechrau gyda the/coffi/ cacennau a bisgedi ac amser i sgwrsio. Yna bydd cyfle i fod yn greadigol gyda Chlai, Argraffu, Cerddoriaeth neu Tai Chi
Darperir cinio ysgafn cartrefol, iach a chewch gyfle i archwilio'r arddangosfeydd celf, y llwybrau cerfluniau a'r gerddi.
Yn y prynhawn, bydd ail sesiwn yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar weithgaredd arall.
Cysylltwch â: office@midwalesarts.org.uk am ragor o wybodaeth

Back to top