Home MWA Icon
En
Gweithdai

Dydd Mercher, 28 Awst, 2024

Gweithdai Celf Gwyliau’r Haf i Blant

Gweithdai Celf Gwyliau'r Haf i Blant - Dydd Mawrth a Dydd Mercher
30, 31 Gorffennaf, 6, 7, 13, 14, 20, 21, 27 a 28 Awst (5 wythnos)
10-4pm
7-12 oed
£12 (gostyngiadau ar gael)
Gall plant ddod i un neu bob un o'r gweithdai

30 Gorffennaf Arbennig: Catrin Williams Gweithdy plant. Mewn ymateb i'w harddangosfa gyfredol, Perthyn - Perthyn. Bydd y plant yn darlunio, peintio, argraffu a phwytho ar bapur a ffabrig.


31 Gorffennaf - 28 Awst: Arlunio, archwilio a dysgu am botensial clai fel deunydd i annog meddwl 3 dimensiwn.
Nod y gweithdai fydd creu ymdeimlad o le a hwyl wrth fod yn greadigol.
Bydd ysbrydoliaeth yn dod o’r Rhufeiniaid yng Nghaersws, y gylfinir, cymeriadau o Under Milk Wood gan Dylan Thomas, yr amgylchedd naturiol a chreadigedd naturiol y plant. Byddant yn gwneud gweithiau unigol a grŵp dan arweiniad athrawon profiadol ac artistiaid proffesiynol.

Mae'r ganolfan yn cynnig amgylchedd ysgogol o gelf, )cefn gwlad a gofod i archwilio natur.
Bydd angen i blant wisgo hen ddillad a dod â phecyn bwyd gyda nhw. Bydd amser egwyl/chwarae rheolaidd.
Mae angen ffurflen caniatâd rhieni a bydd yn cael ei e-bostio atoch.

Diolch i gefnogaeth hael gan The Ashley Family Foundation, BBC Plant Mewn Angen a Mrs Clare Davies rydym yn gallu cynnal y gweithdai hyn am brisiau fforddiadwy.

Back to top