![Celf](../../images/bfdb5f66-8f2a-40b5-a1cd-ae170efd903b.jpeg)
Celf Siarad: Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2-4 Digwyddiad Am Ddim
Rydym wrth ein bodd fod Catrin Williams wedi cytuno i fod yn siaradwr gwadd -
Mae Catrin Williams wedi arddangos ei chelf yn eang ers diwedd yr 1980au. Wedi’i magu ar fferm fynydd ger y Bala, mae’n byw ger y môr ym Mhwllheli ers 1996. Mae Cymreictod – neu’n hytrach y profiad o fyw yng Nghymru – yn thema amlwg yng ngwaith Catrin Williams.
Dewch i ddarganfod mwy am ymarfer Catrin Williams a gweld ei harddangosfa.