Home MWA Icon
En

Tryloyw: Neil Johnson

Dydd Sul, 27 Mawrth, - Dydd Gwener, 27 Mai, 2022

  • Overview

  • Works

Ar ôl gyrfa hynod lwyddiannus yn addysgu Celf a Dylunio yn Ne Manceinion, dychwelodd Neil Johnson i Gymru yn 2007 i ganolbwyntio ar ei waith a’i syniadau ei hun.

Mae Neil yn aelod o Gymdeithas Dyfrlliw Frenhinol Cymru, yn un o sylfaenwyr Borth Arts, yn aelod o’r grŵp Room 103, yn aelod o bwyllgor Celfyddydau Canolbarth Cymru ac yn ymddiriedolwr yr elusen newid hinsawdd Art+Science. Mae wedi arddangos ei waith ledled Prydain ac yn rhyngwladol, gan gynnwys sioe unigol yn Amgueddfa Celf Fodern Cymru.


Wrth ddwyn i gof le neu amser anaml y byddwn yn cofio un ddelwedd o safbwynt penodol. Mae fy ngwaith yn ceisio rhoi ymdeimlad o “basio trwy” le neu amser: weithiau mae'n rhythmig ac yn gytûn, weithiau'n anghydnaws ac yn peri gofid. Tynnir y deunydd pwnc o arsylwi, dychymyg, cof a, lle bo angen, ffynonellau eilaidd.

 

Mae peth o fy ngwaith mwy diweddar yn ystyried gwyliadwriaeth ac arsylwi. Mae cymaint o amser, egni ac adnoddau yn cael eu treulio ar ysbïo a drwgdybiaeth. Mae hyn yn arbennig o annifyr pan ddylai dynolryw fod yn cydweithio yn ystod pandemig byd-eang a newid yn yr hinsawdd.

 

Mae fy holl waith mewn cyfrwng tryloyw dyfrlliw ac nid yw’n defnyddio unrhyw baent du na gwyn.

Back to top