Arddangosfa Nadolig 2021
Dydd Iau, 4 Tachwedd, - Dydd Sul, 19 Rhagfyr, 2021
-
Overview
-
Works
Rydym wedi cael ymateb gwych i alwad agored eleni ac wedi hongian amrywiaeth eang o weithiau celf at ddant a phoced pawb. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddarganfod pa mor dda yw ansawdd gwaith ein hartistiaid lleol. Mae yma gyfuniad diddorol o artistiaid ifanc addawol ochr yn ochr â ffefrynnau Cymreig fel Mary Lloyd Jones a Ruth Jen, a hyd yn oed rhai o weithiau artistiaid rhyngwladol. Bydd yr holl waith yn yr arddangosfa ar werth am brisiau rhesymol a byddwch yn cefnogi talentau cartref newydd.